Cariwch, medd Dafydd, fy nhelyn i mi, Ceisiaf cyn marw roi ton arni hi. Codwch fy nwylo i gyrraedd y tant, Duw a'ch bendithio, fy ngweddw a'm plant. Neithiwr mi glywais lais angel fel hyn,, "Dafydd, tyrd adref a chwarae trwy'r glyn," Delyn fy mebyd, ffarwel i dy dant, Duw a'ch bendithio, fy ngweddw a'm plant