Ar lan y môr mae rhosys cochion
Ar lan y môr mae lilis gwynion
Ar lan y môr mae 'nghariad inne
Yn cysgu'r nos a chodi'r bore

Ar lan y môr mae carreg wastad
Lle bûm yn siarad gair â'm cariad
Oddeutu hon fe dyf y lili
Ac ambell sbrigyn o rosmari

Llawn yw'r môr o swnd a chegryn
Llawn yw'r wy o wyn a melyn
Llawn yw'r coed o ddail a blode
Llawn o gariad merch wyf inne

Ar lan y môr mae cerrig gleision
Ar lan y môr mae blodau'r meibion
Ar lan y môr mae pob rinweddau
Ar lan y môr mae nghariad innau