Taranau Mai yn treiddio mêr fy esgyrn Taranau Mai’n tanseilio dur y plisgyn A’r gwlan ar wifren yn y gwynt Dyfroedd poeth yn tasgu hyd fy ngwegil Dyfroedd coeth yn gaddug o gorun i sawdl A’r croyw yn galed ar fy ngwâr Mellt a glaw yn gorwynt drwy y brigiau Ysgwyd a braw tra ffrwydraf yn [?] Nid noson lawen mohono Elfennau oer yn crynu fy nghydwybod Gwaed a phoer yn cronni yn mynwes fy ngwddwg A’r cwmwl yn tanio uwchben