Wei dwi'n achwyn achwyn achwyn am y
Chwyn chwyldroadol sy'n dinistrio fy ngardd
Ond mae'n anodd cychwyn achwyn am
Eu dail bendigedig sydd yn edrych mor hardd

Chwyn i rai - aur i eraill
Shwn i rai - i fi Ac Eraill
Adfer bro fy ngenedigath
Drwy gerddoriaeth - gweledigaeth

Tra dwin ceisio a phwysleisio
Fod rhaid mynd i'r blwch pleidleisio
Does dim taw ar fy nghwyn
Fel cors heb y brwyn

A tra sudda ffin fy llodrau
Does dim blodau ddigon bodlon
All droi 'mylon fy ngheg
Yn gryman fach deg

Chwyn i rai - aur i eraill
Shwn i rai - i fi Ac Eraill
Adfer bro fy ngenedigath
Drwy gerddoriaeth - rhwystredigaeth

Pan ddaw tro ar fyd
Fry o fewn y gwagle
Troellwn yn ddidaro
Mewn dirfodaeth drwyddi draw

Chwyn i rai - aur i eraill
Shwn i rai - i fi Ac Eraill
Adfer bro fy ngenedigath
Drwy gerddoriaeth - gweledigaeth

Chwyn i rai - aur i eraill
Shwn i rai - i fi Ac Eraill
Adfer bro fy ngenedigath
Drwy gerddoriaeth - profedigaeth