Safodd Glyndur ar fynyddoedd Meirionnydd A chysgod y plygain yn drwm ar ei wedd Clywodd riddfanau yn esgyn o'r cymoedd Plygodd i wrando, a'i bwys ar ei gledd. Safodd yn hir ar fynyddoedd Meirionnydd A'i galon yn gwaedu dros gyflwr ei wlad. Breuddwydiodd am uno ei genedl ranedig, Chwifiodd ei gleddyf ym mhoethder y gad. Plygodd i farw dan gysgod y creigiau, Canodd wrth huno a gwenodd drwy'i hun. Gwelodd y wawrddydd yn gwynu'r mynyddoedd A'i genedl yng ngolau'r dyfodol yn un.