Tyner yw y si'n Atynnu fi I ti Yn y golau cynnar pur Sy'n deffro gwyrth y tir Yn y dedwydd ddydd Yn llawn disgleirdeb ffydd Dymchwel cerflun trist A chodi un I ni Mae'r wefr yn floedd O dan y croen Gobaith clai Dan ysgafn droed Fi ydy'r gwenyn Ti ydy'r blodun Yn chwilio am liwiau Golau a gwreiddyn Greddfol yw yr hud Sy'n dennu fi I ti Yn llachar rhydd Drwr'r oriau cynnar cudd Yn y byd a'i frys Yr unig deimlad clir Cyffyrddiad dy law Y cariad sydd yn wir Mae'r wefr yn floedd O dan y croen Gobaith clai Dan ysgafn droed Fi ydy'r gwenyn Ti ydy'r blodun Yn chwilio am liwiau Golau a gwreiddyn Mae'r wefr yn floedd O dan y croen Gobaith clai Dan ysgafn droed Fi ydy'r gwenyn Ti ydy'r blodun Yn chwilio am liwiau Gobaith a gwreiddyn Ti ydy'r golau Fi ydy'r gwyfyn Cusan adenydd Cyflawn yw'r darlun Fi ydy'r gwenyn